Tom Jones
Artist - Pontypridd
TCJ

 

Cyhoeddwyd Cofio Côr Cwmdŵr yn Rhagfyr 2011

Cofio Cor cwmdwr

 

 

 

Llyfr sy'n hel atgofion am gyfnod llawn bwrlwm yn y 1950au a'r 1960au yng ngogledd Sir Gaerfyrddin

 

Mynnwch gopi

£12

Wrth glicio yma >
Cyswllt

 

 

Cafwyd cyfnod llawn bwrlwm creadigol yng ngogledd Sir Gaerfyrddin yn y 1950au a'r 1960au. Deilliai hyn fwyaf o Gwmdwr, tyddyn ac efail tua dwy filltir i'r gogledd Orllewin o Lanwrda. Yno trefnai Madam Cassie a Mr Jack Simon wersi cerdd0r0l i ddisgyblion o bell ac agos. Cyfeiriwyd y dalent yma tuag at berfformiadau cyhoeddus mewn eisteddfodau a chyngherddau elusennol ar draws Cymru. Aeth sawl unigolyn ymlaen i ddilyn gyrfa ym myd y cyfryngau. Mae’r adroddiad byr yma yn olrhain hanes y côr o’r 1940au hwyr, trwy gynnwrf y 1950au a lan at ymddeoliad y Simons yng nghanol y 1960au.