Tom Jones Artist - Pontypridd |
Magwyd Thomas Charles Jones yn Llansadwrn yn Sir Gar. |
|
Wedi arholiadau TGAU penderfynodd TC ar yrfa mewn gwyddoniaeth yn lle celf. Serch hynny mae erioed wedi ymddiddori yn y ddau faes ac adlewyrchir hyn mewn gwahanol agweddau o’i waith. Yn amgylchfyddwr brwd mae ei hoff bynciau yn cynnwys bywyd gwyllt ac arlunio tirlun. Wedi ymddeoliad o ddysgu gwyddoniaeth a hefyd cyfnod yn gwasanaethu yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae ef o’r diwedd yn mynd ati i greu gyrfa ym myd celf.
|
Mae TC wedi arddangos ei waith yng Nghanolfan Hanesyddol Pontypridd, cyfnod byr yn yr Albany Gallery yng Nghaerdydd ac mae eitemau ar gael drwy Oriel Penyfan yn Aberhonddu. | Cyhoeddywd nifer o galendrau a chardiau Nadolig gan TC ac mae wedi cyflawni nifer o gomisiynau yn dangos portreadau o dai. Mae hefyd wedi gwneud lluniau ar gyfer llyfr i blant i Gyngor Cwricwlwm Cymru yn 1990. |